Amdanaf fi
Wedi fy ysgogi gan angerddd dros genres amywiol, rwyf wrth fy modd yn cydweithio ag artistiaid sy'n dod ag egni a syniadau ffres. Rwy'n esblygu'n gyson gyda cherddoriaeth fodern gan gadw profiad y gwrandawr wrth wraidd popeth rwy'n ei greu.
Rwy'n gynhyrchydd cerddoriaeth ymroddedig ac yn aml-offerynnwr gyda dros 12 mlynedd o brofiad, gan arbenigo mewn cerddoriaeth bop a chyfoes. Rwyf wedi astudio cerddoriaeth technegol creadigol ym Mhrifysgol Bath Spa ac wedi ennill profiad gwaith ar draws y diwydiant sain a sain byw. Gyda chefndir mewn perfformio, cyfansoddi a thechnoleg cerddoriaeth, rwyf wedi datblygu set sgiliau cryf ar draws ochrau creadigol a technegol cynhyrchu. Rwy'n chwarae'r piano, y gitar, ac rwyn lleisydd hyfforddedig, sy'n caniatau i mi ymdrin a cherddoriaeth o safbwyntiau lluosog wrth ysgrifennu a chynhyrchu.
Mae fy ngwaith yn cwmpasu ystod o brofiadau ymarferol, gan cynnwys recordio a chynhyrchu band byw gan ddefnyddio FL Studio, lle datblygais sgiliau mewn gosod meicroffon, olrhain a chymysgu. Rwyf hefyd wedi gweithio mewn sain fyw, gan gyfrannu at gynyrchiadau theatr fel Robin Hood yn Theatr Riverfront, lle rheolais giwiau sain a dysgu gweithredu dan bwysau o flaen cynulleidfa fyw. Yn ogystal, rwyf wedi cefnogi digwyddiadau awyr agored byw, gan addasu i amgylcheddau technegol mwy heriol. Rydw i wedi Cael y cyfle i archwilio ochr broffesiynol y diwydiant drwy ymweld a stiwdio meistroli, gan gael cipolwg ar gamau olaf cynhyrchu cerddoriaeth a sut mae traciau'n Cael au paratoi i'w rhyddhau. Yn rhyngwladol, cydweithiais a grwp mawr o gerddorion yn ystod prosciect cerddoriaeth yn Iwerddon, lle recordiais a pherfformiais fersiynau clawr, gan gyfrannu at gynhyrchu sain a fideo mewn amgylchedd cyflym, dan arweiniad tim. Ochr yn ochr a hyn, rydw i wedi adeiladu a datblygu fy stiwdio gatref fy hun, lle rydw i'n defnyddio Logic Pro X yn bennaf i gynhyrchu ac arbrofi gyda fy ngherddoriaeth fy hun. Mae fy mhrosiectau'n aml yn archwilio synau wedi'u hysbrydoli gan bop a disco, tra hefyd yn amestyn i wahanol genres wrth i mi barhau i dyfu'n greadigol. Rydw i'n angerddol am greu cerddoriaeth sy'n cysylltu a chynulleidfa eang, ac rydw I wedi ymrwymo i firenio fy sain, ehangu i gynhyrchu dan arweiniad lleisiol, ac annog cynrychiolaeth fenywaidd fwy o fewn y diwydiant cerddoriaeth.